BBC Cymru Fyw

Buddugoliaeth i Ulster gartref yn erbyn Dreigiau Gwent

Published
image copyrightPress Eye
image captionTommy Bowe yn sgorio cais agoriadol Ulster

Ulster 31-5 Dreigiau Gwent

Fe wnaeth Ulster ddychwelyd i frig cynghrair y Pro 12 wedi buddugoliaeth a phwynt bonws yn erbyn Dreigiau Gwent yn Ravenhill.

Tommy Bowe sgoriodd y cais cyntaf i'r tîm cartref.

Dyma'r gêm gyntaf iddo gychwyn ers mis Rhagfyr.

Fe wnaeth Stuart Olding a Darren Cave groesi am gais hefyd wrth i Ulster gymryd rheolaeth o'r gêm.

Roedden nhw ar y blaen 24-0 erbyn yr hanner cyntaf gyda Ruan Peinnar yn trosi'r tri chais.

Methodd Tom Prydie gyda chic cosb i'r Dreigiau o flaen y pyst wedi dau funud.

Ond fe wnaeth yn iawn am ei gamgymeriad gyda chais yn yr ail hanner, cais gysur 10 munud o ddiwedd y gêm.

Ond methodd Steffan Jones, oedd wedi dod ymlaen fel eilydd, i drosi.

Yn yr ail hanner cafodd Paul Marshall bedwerydd cais y tîm cartref i sicrhau'r pwynt bonws.

Cododd Ulster i'r brig wrth i Glasgow golli yn erbyn Y Scarlets a syrthio i'r ail safle.