Gêm gyfartal i Forgannwg

Clwb Criced Morgannwg Image copyright Glamorgan CCC

Mae gêm gyntaf Morgannwg yn y Bencampwriaeth y tymor hwn wedi gorffen yn gyfartal diolch i'r glaw yng Nghaerdydd.

Roedd Morgannwg wedi sgorio 96 am bedair wiced yn eu hail fatiad erbyn diwedd y chwarae nos Wener oedd yn eu gadael angen sgorio 62 i osgoi colli o fatiad.

Roedd batwyr Morgannwg wedi methu tanio yn yr ail fatiad yn dilyn eu sgôr siomedig yn y batiad cyntaf.

Ond er i'r tîm cartref golli wicedi'n gyson, fe ddaeth y tywydd i'w hachub.

Doedd dim chwarae o gwbl ar y pedwerydd diwrnod sy'n golygu bod y gêm yn gorffen yn gyfartal.

Morgannwg v Sir Northampton - Pencampwriaeth y Siroedd, Ail Adran

Sgôr terfynol :-

Morgannwg (batiad cyntaf): 134 (50 pelawd)

Northampton (batiad cyntaf) 292 (90.1 pelawd)

Morgannwg (ail fatiad) 96 am 4 wiced (42 pelawd)

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.