Bangor 2-0 Caerfyrddin
- Cyhoeddwyd

Gyda'r Seintiau eisoes yn bencampwyr, mae'r sylw yn Uwchgynghrair Cymru am y frwydr am yr ail safle, a'r ail le yn Ewrop.
Collodd Airbus i'r Seintiau nos Wener, ac mae Bangor bellach yn gyfartal ar bwyntiau gyda nhw yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn Caerfyrddin yn Stadiwm The Book People ddydd Sadwrn.
Chris Simm a Sion Edwards oedd y sgorwyr i'r Dinasyddion.
Yn y gêm arall yn hanner ucha'r tabl, daeth triphwynt hawdd i Bort Talbot yn erbyn Prestatyn o 4-1. Yr ymwelwyr aeth ar y blaen, ond daeth goliau gan David Brooks, Carl Payne a dwy i Martin Rose i ennill y gêm i'r tîm cartref.
Yn yr hanner isaf, daeth buddugoliaethau cyfforddus i'r Bala a Chei Conna, ac fe orffennodd y gêm rhwng Aberystwyth a'r Drenewydd yn gyfartal ddi-sgôr.
Canlyniadau =
Nos Wener:
Y Seintiau Newydd 4-2 Airbus UK Brychdyn
Dydd Sadwrn:
Bangor 2-0 Caerfyrddin
Port Talbot 3-1 Prestatyn
Aberystwyth 0-0 Y Drenewydd
Cei Connah 4-2 Llanelli
Bala 4-0 Lido Afan
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2013