Casnewydd yn ennill - Wrecsam yn colli

  • Cyhoeddwyd
Wrecsam a ChasnewyddFfynhonnell y llun, bbc

Casnewydd 2-0 Alfreton

Roedd Casnewydd a Wrecsam eisoes yn sicr o'u lle yn y gemau ailgyfle ar ddiwedd y tymor, ond yn fathemategol, mae gobeithion Casnewydd o ennill y bencampwriaeth - ac felly dyrchafiad yn syth - yn dal yn fyw.

Daw hynny gan i'r tîm ar y brig, Mansfield, golli ddydd Sadwrn, a Chasnewydd yn curo Alfreton ar Rodney Parade.

Bu'n rhaid gohirio dechrau gêm mewn amgylchiadau rhyfedd - roedd un o'r goliau ar Rodney Parade yn rhy uchel (ac felly'n rhy fawr) a bu'n rhaid ail-osod y pyst.

Pan ddechreuodd y gêm, roedd Casnewydd yn feistri llwyr, ond er hynny roedd rhaid aros tan yr egwyl bron am y gôl gyntaf.

Christian Jolley sgoriodd wedi 45 munud.

Roedd yr ail yn anochel bron, ac wedi 67 munud fe beniodd yr eilydd Byron Anthony i'r rhwyd i sicrhau'r fuddugoliaeth.

Er mwyn i Gasnewydd ennill y bencampwriaeth fe fyddai'n rhaid i Mansfield a Kidderminster golli'r gemau sy'n wedill, a Chasnewydd ennill y ddwy gan ychwanegu'n sylweddol at eu gwahaniaeth goliau.

Wrecsam 1-2 Kidderminster

Roedd Wrecsam yn falch o weld Grimsby yn cael gêm gyfartal nos Wener, ac yn gobeithio manteisio ar hynny i gryfhau eu safle yn bedwerdydd yn y tabl.

Ond Kidderminster yw'r tîm sydd â'r rhediad gorau yn yr adran yn ddiweddar, ac roedden nhw'n rhy gryf i'r Dreigiau yn y gêm hwyr.

Sgoriodd James Vincent i'r ymwelwyr wedi 19 munud gydag ergyd o 20 i'r gornel isaf ac roedd Kidderminster yn rheoli'r meddiant yn llwyr yn yr hanner cyntaf.

Ond fe ddangosodd Wrecsam fwy o ddycnwch yn yr ail hanner, ac fe gawson nhw'u gwobrwyo am hynny wedi 62 munud pan sgoriodd Danny Wright i unioni'r sgôr.

Ond yna fe ddaeth Kidderminster yn ôl gydag un arall - Michael Gash yn rhwydo wedi 71 munud.