Pro12: Ospreys 28-3 Treviso
- Cyhoeddwyd

Sgoriodd Dan Biggar un o geisiau'r Gweilch
Mae'r Gweilch yn dal i obeithio am le yn y gemau ail gyfle yn y Pro12 wedi buddugoliaeth dros Treviso nos Sadwrn.
Mae'r pencampwyr yn y pedwerydd safle ar ôl ennill o 28-3.
Sgoriodd Dan Biggar, Ben John a Rhys Webb geisiau yn Stadiwm Liberty.
Mae'r fuddugoliaeth yn codi'r Gweilch uwchben y Scarlets i'r pedwerydd safle.