Planhigyn yn fygythiad i ddefaid
- Cyhoeddwyd

Mae defaid yn marw ar fynyddoedd sydd wedi'u gorchuddio gan eira am eu bod yn bwyta planhigyn gwenwynig.
Dywed ffermwyr yn Eryri eu bod wedi colli stoc wrth i ddefaid fethu â dod o hyd i wair o dan eira a'u bod felly yn bwyta dail rhododendron.
Mae'r planhigyn yn un trafferthus ar draws rhannau helaeth o Barc Cenedlaethol Eryri.
Er gwaetha' rhaglen i gael gwared arno, mae'r rhododendron yn dal i orchuddio tua 2% o dir y parc.
'Planhigyn twyllodrus'
Mae swyddogion y parc cenedlaethol nawr yn rhybuddio ffermwyr i fod yn wyliadwrus os oes ganddyn nhw stoc ar dir sydd â'r planhigyn arno.
Y rhannau gwaethaf o Eryri yw Mawddwy - i'r de a'r gogledd o Afon Mawddach - Bro Ffestiniog, ardaloedd Glaslyn a Gwynant a Betws-y-Coed.
Dywedodd pennaeth amaeth a chadwraeth Parc Cenedlaethol Eryri, Rhys Owen:
"Mae'r rhododendron yn blanhigyn twyllodrus. Er ei fod yn edrych yn wych wrth flodeuo, mae'n wenwynig iawn i'r mwyafrif o anifeiliaid, adar a thrychfilod.
"Gan fod y gwanwyn yn hwyrach eleni gyda'r tir yn llwm, mae dail gwyrdd y rhododendron yn apelio'n fawr at ddefaid.
"Ond gall yr effaith fod yn gostus i ffermwyr, felly rydym yn apelio ar ffermwyr yn Eryri i fod yn wyliadwrus o'u defaid o gwmpas y planhigyn yma."
Rheoli'r pla
Cafodd y planhigyn ei gyflwyno i ardal Beddgelert gan arddwyr Fictoraidd, ond fe ymledodd i'r bryniau a mynyddoedd cyfagos ac ar draws y parc cenedlaethol.
Cafodd rhaglen i reoli'r planhigyn ei lansio yn 2008 gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gyda chymorth timau o Cyfoeth Naturiol Cymru, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chyngor Gwynedd.
Daw'r rhybudd am y rhododendron wrth i ffermwyr mewn rhannau o Eryri geisio ymdopi â cholledion achoswyd gan y tywydd drwg ar ddiwedd mis Mawrth, pan gafodd anifeiliaid eu claddu o dan yr eira.
Yr wythnos ddiwethaf, cafodd cyfnod o lacio'r rheolau yn ymwneud â chladdu anifeiliaid marw ar dir fferm ei ymestyn gan Lywodraeth Cymru, er i'r gweinidog sydd â chyfrifoldeb am amaeth, Alun Davies AC, wrthod galwadau am gymorth ariannol i'r ffermwyr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2013