Gwrthdrawiad: Dau yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae dau berson wedi cael eu cludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd yn Sir Fynwy.
Bu'n rhaid torri un person allan o'i gerbyd yn dilyn y gwrthdrawiad ar y B4245 yng Nghil-y-Coed.
Cafodd ail berson ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans, ond llwyddodd pedwar person arall ddianc yn ddianaf o'r ail gerbyd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r safle ychydig cyn 2:30pm ddydd Sul.