Ymarfer ar gyfer angladd Thatcher
- Cyhoeddwyd

Mae ymarfer llawn ar gyfer angladd y Farwnes Thatcher wedi cael ei gynnal.
Roedd cannoedd o bobl o'r lluoedd arfog yn rhan o'r ymarfer yn Llundain yn yr oriau man rhwng nos Sul a bore Llun.
Bydd angladd Margaret Thatcher yn cael ei gynnal ddydd Mercher yng nghadeirlan St Paul's a hynny wedi gorymdaith o San Steffan gydag anrhydeddau milwrol llawn.
Ddydd Mawrth yn y Cynulliad Cenedlaethol bydd teyrngedau yn cael ei rhoi i'r Farwnes Thatcher.
Ond mae'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi dweud na fydd ef yn bresennol.
'Anghytuno'
Wrth siarad ar raglen wleidyddol Sunday Politics Wales, dywedodd y cyn lywydd: "Mae'n siŵr gen i fy mod i yn anghytuno gyda phopeth wnaeth hi. O ran Cymru ac economi Cymru fe welwyd eithafion o gyfoeth a thlodi pan oedd hi'n llywodraethu ac rydyn ni'n dal i dalu'r pris rŵan.
"Fe wnes i gefnogi'r glowyr pan oeddwn i yn arweinydd Plaid Cymru. Roedd fy nhaid yn gweithio yn y maes glo ac er cof amdano fo fydda' i ddim yn rhan o unrhyw deyrngedau i Margaret Thatcher."
Mae'r Aelod Seneddol Ceidwadol Ewropeaidd Kay Swinburne wedi dweud ar yr un rhaglen y bydd hi'n mynd i'r angladd.
Dywedodd ei bod yn deall safbwynt y glowyr a bod ei thaid yn löwr ond bod y Farwnes Thatcher wedi cymryd y camau cywir mewn cyfnod anodd: "Roedd y dadleuon economaidd oedd yn cael eu cyflwyno a chyflwr y wlad yn golygu bod yn rhaid galluogi i newidiadau ddigwydd.
Roedd ganddi hi'r cryfder cymeriad i wneud hynny ac fe blannodd hi'r hadau ar gyfer gwlad lle mae mentergarwch yn digwydd nawr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2013