Cyhoeddi enw merch fu farw mewn damwain
- Cyhoeddwyd

Digwyddodd y ddamwain ar yr A4069
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi enw'r ferch a gafodd ei lladd mewn damwain car yn Sir Gaerfyrddin dros wythnos yn ôl.
Roedd Elin Davies yn 19 oed ac yn dod o ardal Glanaman.
Roedd hi'n un o bedair o ferched a oedd yn teithio mewn car ar Ebrill 7 pan aeth y cerbyd oddi ar y ffordd a disgyn i lawr arglawdd ar yr A4069.
Cafodd tair dynes arall eu cludo gan hofrennydd i'r ysbyty gydag anafiadau.
Mae cwest wedi cael ei agor a'i ohirio.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2013
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol