Isafswm cyflog yn codi i £6.31
- Cyhoeddwyd

Bydd isafswm cyflog yn codi i £6.31 yr awr i oedolion o fis Hydref ymlaen.
Mae Llywodraeth San Steffan hefyd wedi cyhoeddi y bydd yna gynnydd yn y cyflog y bydd pobl rhwng 18-20 oed yn ei dderbyn.
£5.03 yr awr o dâl fyddan nhw'n cael yn y dyfodol.
Mae'r newidiadau yn cydfynd gyda'r argymhellion a wnaethpwyd gan y corff annibynnol Comisiwn Cyflogau Isel, sydd yn cynghori'r llywodraeth.
Prentisiaid
Er hynny mae'r Ysgrifennydd Busnes Vince Cable wedi penderfynu anwybyddu'r argymhelliad i rewi'r gyfradd sydd yn cael ei rhoi i bobl ar brentisiaethau.
Dywedodd Mr Cable y bydd yn codi 3c, i £2.68 yr awr.
Meddai: "Mae yna dystiolaeth sydd yn awgrymu bod yna nifer sylweddol o gyflogwyr sydd ddim yn talu'r isafswm cyflog priodol ar gyfer unigolion ar brentisiaethau.
"Mae prentisiaethau yn rhan hanfodol o'n nod i gefnogi a chryfhau'r economi ac felly mae'n bwysig eu bod nhw dal yn atyniadol ar gyfer pobl ifanc."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2012