Cynllun gwaith Genesis yn dod i ben yn gynnar

  • Cyhoeddwyd
Cafodd rhaglen Genesis ei lansio yn 2008
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd rhaglen Genesis ei lansio yn 2008

Mae cynllun gwerth £36m, oedd yn ceisio helpu pobl yn ôl i'r gwaith, yn dod i ben flwyddyn yn gynnar ar ôl methu cwrdd â thargedau.

Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru nad oedd rhaglen Genesis yn perfformio cystal ac y byddai "gwersi'n cael eu dysgu".

Roedd disgwyl i'r cynllun helpu 20,000 gael swyddi neu gymwysterau, gan ganolbwyntio ar grwpiau fel rhieni sengl.

Ond datgelodd BBC Cymru ym mis Chwefror mai ond tua hanner hynny oedd yn rhan o'r rhaglen a bod llai nag 800 wedi dod o hyd i waith.

Roedd arian Ewrop yn helpu'r rhaglen.

Penderfynodd gweinidogion ystyried rhoi'r gorau i'r cynllun eleni yn hytrach nag yn 2014 wedi i adolygiad gasglu nad oedd yn profi'n llwyddiant.

Perfformiad

Cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau Jeff Cuthbert ddydd Llun y byddai Genesis yn cau "fesul cam" o fis Gorffennaf ymlaen wedi i adolygiad ddarganfod nad oedd yn perfformio'n dda o ran recriwtio, gwariant a thargedau perfformiad.

Ychwanegodd fod y llywodraeth yn trafod ffyrdd eraill o helpu â chynghorau lleol a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru.

"Tra bod Genesis wedi helpu nifer o bobl i fagu mwy o hyder a hunanbarch wrth ddod o hyd i waith nawr neu yn y dyfodol, allwn ni ddim anwybyddu'r ffaith nad yw'r rhaglen yn perfformio'n dda.

"Un o'r prif amcanion oedd cefnogi grwpiau sy'n ei chael yn anodd dod o hyd i waith ac mae manylion perfformiad yn dangos nad oeddynt yn cyflawni'r amcanion hyn ar y cyfan ac nad oeddynt yn cymharu'n ffafriol gyda rhaglenni eraill oedd yn targedu grwpiau tebyg."

'Dysgu gwersi'

Daeth i'r amlwg y llynedd fod Genesis yn wynebu dyfodol ansicr.

Yn ôl ffigurau ddaeth i law BBC Cymru ym mis Chwefror, roedd nifer y bobl oedd yn rhan o'r prosiect yn llawer is na'r targed gwreiddiol:

  • Erbyn Mehefin 2012 roedd 10,500 wedi bod yn rhan o'r prosiect;
  • O'r rhain, dim ond 789 oedd yn gweithio o leia' 16 awr yr wythnos;
  • Mae creu'r swyddi hyn yn costio £44,735 yr un ar gyfartaledd - £13,000 y swydd oedd y targed yn 2008.

Dywedodd Mr Cuthbert: "Bydd gwersi'n cael eu dysgu a bydd yn ein helpu i gynllunio rhaglenni gwaith a sgiliau i oedolion yng Nghymru yn y dyfodol.

"Byddwn hefyd yn sicrhau ein bod yn ystyried unrhyw arfer da o Genesis wrth ddatblygu rhaglenni yn y dyfodol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol