Mewn lluniau: Dyrchafiad Caerdydd i'r Uwchgynghrair

Published
image captionDaw llwyddiant Caerdydd 53 blynedd i'r diwrnod ers y tro diwethaf iddyn nhw gael eu dyrchafu i Brif Adran Cynghrair Lloegr.
image captionDim ond gêm gyfartal yn erbyn Charlton Athletic oedd angen ar yr Adar Gleision i sicrhau dyrchafiad.
image captionRoedd yr awyrgylch yn ystod y gêm yn erbyn Charlton Athletic nos Fawrth yn drydanol.
image captionOnd dechreuodd y dorf ddathlu cyn gynted ag y sylddweddolon nhw fod Watford yn colli.
image captionRoedd cannoedd o gefnogwyr ar y cae ar ôl i'r chwiban olaf gael ei chwythu wrth i'r gêm orffen yn ddisgôr.
image captionHwn yw'r pedwerydd tro i Gaerdydd gael eu dyrchafu i Brif Adran Lloegr.
image captionRheolwr Caerdydd Malky Mackay yng nghanol y dathlu
image captionFe ddathlodd Craig Bellamy, sy'n hanu o Gaerdydd, gyda'r cefnogwyr yn dilyn y gêm.
image captionNid yw'r clwb wedi chwarae ym mhrif adran Cynghrair Lloegr er 1962.
image captionMae'r Adar Gleision wedi bod ar frig y Bencampwriaeth ers mis Tachwedd.
image captionCafodd y gêm ei gwylio gan fwy na 26,000 o gefnogwyr yn Stadiwm Caerdydd
image captionDisgwylir i ddyrchafiad y clwb fod yn fuddiol yn ariannol i'r Adar Gleision ac i'r brifddinas
image captionDeellir fod gan berchennog y clwb Vincent Tan gynlluniau cyffrous ar gyfer yr Adar Gleision
image captionMae perchennog y clwb Vincent Tan wedi dweud y byddai'n gwario hyd at £25 miliwn ar chwaraewyr newydd ar ôl i'r Adar Gleision gael eu dyrchafu i'r Uwchgynghrair.

Straeon perthnasol