Heddlu'n apelio am dystion
- Cyhoeddwyd

Roedd y ddamwain farwol am 5.40am ddydd Iau, Ebrill 11.
Mae'r heddlu'n apelio am dystion wedi damwain farwol am 5.40am ddydd Iau, Ebrill 11.
Roedd y ddamwain ar yr A4233 rhwng Y Porth a Phontygwaith yn Y Rhondda.
Bu gwrthdrawiad rhwng BMW coch a Ford Focus du a bu farw Ian Mitchell o Bontygwaith, gyrrwr 71 oed y BMW.
Aed â gyrrwr 28 oed y car arall i Ysbyty Brenhinol Morgannwg oherwydd anafiadau difrifol i'w goesau.
Dywedodd gwraig weddw Mr Mitchell, Monica: "Roedd yn ŵr ffyddlon iawn ac mae colled fawr ar ei ôl."
Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio 101 neu Taclo'r Tacle'n ddienw ar 0800 555 111.