Rhybudd gweinidog am gynnydd mewn achosion o'r frech goch

  • Cyhoeddwyd
ChwistrelliadFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford nad oedd yr achosion wedi cyrraedd y brig eto

Mae Gweinidog Iechyd Cymru, Mark Drakeford, wedi rhybuddio y bydd achosion o'r frech goch yn ardal Abertawe yn parhau i godi am wythnosau.

Fe wnaeth ei sylwadau cyn i'r ffigurau diweddara' am yr epidemig gael eu cyhoeddi ddydd Mawrth.

Dywedodd mai'r unig ffordd i atal yr haint rhag lledu oedd sicrhau fod pobl yn cael y brechiad MMR.

Mae bron i 700 o achosion, y mwyafrif yn Abertawe, wedi eu cofnodi ers mis Tachwedd 2012.

Yn ôl Mr Drakeford, mae Llywodraeth Cymru'n ymwybodol nad yw'r achosion "wedi cyrraedd y brig eto".

Amddiffyn

Ychwanegodd y gweinidog, sydd wedi ysgrifennu at ACau, ASau a byrddau iechyd: "Yn wir, gallwn ddisgwyl y bydd achosion yn parhau am nifer o wythnosau eto.

"Yr unig ffordd i atal hyn yw sicrhau fod cynifer o bobl â phosib yn cael y brechiad MMR i amddiffyn eu hunain, eu plant, aelodau o'u teuluoedd ac eraill yn y gymuned allai fod mewn peryg am wahanol resymau."

Mae Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg yn dechrau cynllun brechu yn ysgolion yr ardal yr wythnos hon.

Bydd byrddau iechyd eraill yn cynnig clinigau arbennig i dargedu ysgolion ble mae nifer isel o blant wedi'u brechu.

Mewn clinigau arbennig a gynhaliwyd dros y penwythnos yn ardaloedd tri bwrdd iechyd, fe gafodd cyfanswm o tua 2,500 o bobl eu brechu yn erbyn y frech goch. Roedd hynny'n dilyn 1,700 o frechiadau dros y penwythnos blaenorol.

'Byth yn rhy hwyr'

Ond mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amcangyfrif bod tua 40,000 o blant yng Nghymru sydd heb gael y brechiad MMR.

Er bod mwyafrif yr achosion o'r frech goch yn ardal Abertawe, mae swyddogion iechyd yn bryderus y gallai'r haint ledu i rannau eraill o Gymru ac mae nifer o achosion wedi dod i'r amlwg eisoes ym Mhowys.

Ar raglen y Post Cynta' fore Llun dywedodd Dr Meirion Evans, o Iechyd Cyhoeddus Cymru:

"'Dan ni'n pwysleisio bod hi byth yn rhy hwyr i frechu'ch plant â'r MMR - 'da ni'n ymwybodol fod nifer fawr o blant - yn arbennig y rhai sydd yn yr ysgol uwchradd nawr - erioed wedi cael yr MMR.

"Nawr yw'r amser gorau i sicrhau eu bod nhw wedi'u brechu."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol