Carchar: Cyngor Wrecsam yn awgrymu safleoedd
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Wrecsam wedi awgrymu dau safle allai fod yn addas ar gyfer carchardai i'r Weinyddiaeth Cyfiawnder.
Parc Kingmoor a safle Firestone yw'r ddau le sydd wedi eu cynnig.
Perchennog preifat sydd biau Parc Kingmoor a Llywodraeth Cymru sydd yn gyfrifol am Firestone.
Mae'r lleoliadau ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam.
Gogledd
Eisoes mae galwadau wedi bod i gael carchar yng Ngogledd Cymru wrth i wleidyddion ddweud y byddai'n hwb i'r economi leol.
Safleoedd eraill y mae Llywodraeth San Steffan yn eu hystyried yw Llundain a Gogledd Orllewin Lloegr.
Dywedodd y cynghorydd lleol Neil Rogers: "Byddai cael carchar yn Wrecsam yn hwb economaidd anferth i'r ardal.
"Byddai hefyd o fudd i'r carcharorion o'r ardaloedd cyfagos gan y byddai'n bosib' iddyn nhw weld eu teuluoedd a'u ffrindiau yn fwy aml."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2010