Creu 450 o swyddi mewn canolfan
- Cyhoeddwyd

Mae 450 o swyddi'n cael eu creu yng Nghaerdydd wrth i gwmni Serco ehangu.
Yn 2011 cyhoeddodd y byddai 600 o swyddi yn y ddinas ond dim ond 400 gafodd eu llenwi.
Erbyn diwedd Medi mae Serco'n gobeithio y bydd 850 o weithwyr.
Dywedodd Jan Lewis, y cyfarwyddwr safle: "Bydd y swyddi hyn yn llawn amser ac rydyn ni wedi recriwtio'n barod.
"Mae hyfforddiant yn bwysig ac fe fydd yn para am ychydig dros bum wythnos ..."
Symudodd Serco i swyddfa newydd yng Nghaerdydd yn 2011 er mwyn darparu gwasanaethau i gwmnïoedd fel Shop Direct Group.
O fewn wythnos bydd yn anelu at recriwtio 100 o werthwyr cyn penodi'r 350 arall.
Daw'r cyhoeddiad ddau fis wedi i Virgin Media ddweud y byddai'n creu 230 o swyddi mewn canolfan alwadau yn Abertawe.
Yng Nghymru yr amcangyfri' yw bod 30,000 o bobl yn gweithio mewn canolfan alwadau.