Llys: 'Gwres a mwg yn atal achubwyr'
- Cyhoeddwyd

Mae llys wedi clywed bod gwres a mwg wedi rhwystro cymdogion rhag achub teulu.
Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug mae Melanie Jane Smith, 42 oed, wedi gwadu llofruddio dau oedolyn a thri phlentyn ifanc oherwyd tân mewn fflat uwchben ei fflat hi ym Mhrestatyn ym mis Hydref y llynedd.
Bu farw Lee-Ann Shiers, 20 oed, ei nai Bailey, pedair oed, ei nith Skye, dwy oed, mewn tân ar Hydref 19.
Cafodd ei mab 15 mis oed, Charlie, a'i phartner Liam Timbrell, 23 oed, eu hachub ond bu farw'r ddau yn yr ysbyty.
Clywodd y llys fod cynblismon wedi ceisio mynd i mewn drwy ffenest gefn a bod cymydog arall wedi ceisio agor drws y ffrynt.
Mewn datganiad dywedodd y cynblismon Peter Bailey ei fod yn gwylio'r teledu pan waeddodd ei wraig fod tŷ yr ochr draw ar dân.
"Es i allan a gweld bod drws y ffrynt yn llosgi. Roedd llawer o bobl yn y stryd a llwyth o fwg du."
'Anhygoel'
Aeth i gefn yr adeilad, meddai, a dringo ar do gwastad.
Wedyn dringodd ysgol a chyffwrdd â ffenest. "Mi oedd y gwres yn anhygoel. Roedd yn amhosib' mynd i mewn."
Dywedodd cymydog arall Joe Shelley iddo glywed llais menyw yn gweiddi: "Allwn ni ddim dianc."
Pan agorodd ddrws y ffrynt synnodd ba mor ffyrnig oedd y tân.
"Roeddwn i'n bwriadu helpu ond lledodd y fflamau," meddai.
Mae'r erlyniad yn honni bod y diffynnydd wedi dechrau'r tân yn fwriadol yn sgil ffrae ynghylch cadair wthio.
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2013