Cynnal angladd y Farwnes Thatcher yn St Paul's
- Cyhoeddwyd

Mae miloedd o bobl wedi ymgasglu ar strydoedd Llundain wrth i angladd y Farwnes Thatcher gael ei gynnal yng Nghadeirlan St Paul's.
Yn Eglwys St Clement Danes yn y Strand cafodd yr arch ei throsglwyddo i gerbyd gwn ar gyfer yr orymdaith filwrol trwy ganol y ddinas.
Roedd aelodau o Fataliwn Cyntaf y Gwarchodlu Cymreig yn gorymdeithio gyda'r arch i sŵn clychau eglwys.
Fe ddechreuodd y gwasanaeth yn St Paul's am 11:00am.
Mae'r Prif Weinidog David Cameron wedi galw'r achlysur yn "deyrnged addas" ar gyfer y cyn brif weinidog Ceidwadol.
4,000
Mae dros 4,000 o swyddogion heddlu yn rhan o ymgyrch ddiogelwch fawr.
Roedd disgwyl rhai protestiadau yn ystod y digwyddiad, gyda rhai yn bwriadu troi eu cefnau ar yr arch wrth iddi fynd heibio.
Ond galwodd Mr Cameron ar bobl i ddangos parch tuag at y ddiweddar Farwnes.
Yn unol â dymuniadau'r teulu, nid yw'n angladd gwladol llawn fel y cafwyd i Winston Churchill yn 1965.
Er hynny, mae'r Frenhines wedi rhoi caniatâd i gynnal angladd seremonïol fel un y Dywysoges Diana yn 1997.
Bu farw'r Farwnes Thatcher, oedd yn brif weinidog Ceidwadol rhwng 1979 a 1990, ar Ebrill 8 yn dilyn strôc. Roedd hi'n 87 mlwydd oed.
Ymgyrch ddiogelwch
Mae dros 4,000 o swyddogion heddlu yn rhan o ymgyrch ddiogelwch fawr ar gyfer yr angladd.
Ddydd Mawrth cafodd ei harch ei symud i Gapel St Mary Undercroft ym Mhalas San Steffan.
Sion Tecwyn fu'n holi'r arbenigwr ar ddiogelwch, Dai Davies
Ddydd Mercher roedd strydoedd canol Llundain yn cael eu cadw'n glir a'r arch yn cael ei gosod ar gerbyd gwn ar orymdaith drwy'r brifddinas, gydag aelodau'r lluoedd arfog ar ymyl y ffordd, gan gynnwys aelodau o'r Gwarchodlu Cymreig oedd yn Rhyfel y Falklands.
Roedd 2,300 o bobl o 170 o wledydd yn mynychu'r angladd.
Gwesteion
Ymhlith y gwesteion o Gymru roedd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones, Llywydd y Cynulliad Rosemary Butler, a'r cantoresau Shirley Bassey a Katherine Jenkins.
Roedd y Frenhines a Dug Caeredin hefyd yn bresennol, yn ogystal â'r Prif Weinidog David Cameron, y cyn brif weinidogion Tony Blair, Gordon Brown a Syr John Major, Arweinydd yr Wrthblaid Ed Miliband, Prif Weinidog Yr Alban Alex Salmond a Phrif Weinidog Gogledd Iwerddon Peter Robinson.
Roedd nifer o gynrychiolwyr gwledydd tramor wedi'u gwahodd, gan gynnwys cyn arlywydd De Affrica FW de Klerk, Prif Weiniodg Canada Stephen Harper a chyn brif weinidog y wlad Brian Mulroney, cyn arlywydd y Weriniaeth Tsiec Vaclav Klaus a phrif weinidog presennol y wlad Petr Necas, y gweriniaethwr o'r Unol Daleithiau Newt Gingrich, a chyn brif weinidog Awstralia John Howard.
Ymhlith yr emynau roedd Rhosymedre, Salm 84 i gerddoriaeth Johannes Brahms, a'r pennill gwladgarol I Vow To Thee My Country.
Pan ddaw'r gwasanaeth i ben am 11:55 fe fydd yr arch yn cael ei chludo i Amlosgfa Mortlake yn Richmond.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2013