Oriel luniau'r angladd y Farwnes Thatcher

Cyhoeddwyd
disgrifiad o’r llunArch y cyn brif weinidog Margaret Thatcher yn gorffwys yng Nghapel St Mary Undercroft o dan y Senedd cyn yr angladd ddydd Mercher.
disgrifiad o’r llunRoedd miloedd wedi ymgasglu ar strydoedd Llundain ers ben bore i wylio'r orymdaith angladdol.
disgrifiad o’r llunRoedd rhai wedi cyrraedd yn gynnar i sicrhau golygfa dda o'r digwyddiadau ddydd Mercher.
disgrifiad o’r llunRoedd 4,000 o blismyn ar ddyletswydd fel rhan o ymgyrch ddiogelwch fawr ar gyfer yr angldd.
disgrifiad o’r llunRoedd tua 2,300 o bobl o 170 o wledydd wedi cael gwahoddiad i'r angladd.
disgrifiad o’r llunRoedd Phil Williams, o ogledd Cymru, ymhlith y rhai oedd wedi teithio i Lundain i gynnal protestiadau ar strydoedd y ddinas ddydd Mercher.
disgrifiad o’r llunCafodd corff y Farwnes Thatcher ei gludo o Balas San Steffan i Gapel St Clement Danes, cyn cael ei gario ar gar gwn i Gadeirlan St Paul's.
disgrifiad o’r llunGwesteion yn cyrraedd ar gyfer yr angladd yng Nghadeirlan St Paul's
disgrifiad o’r llunRoedd ŵyr a wyres y Farwnes Thatcher, Michael ac Amanda Thatcher, yn cerdded o flaen yr arch wrth iddi gyrraedd Cadeirlan St Paul's