Damwain yn Nhregaron: Bachgen yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen o flwyddyn 8 yn yr ysbyty wedi i gar ei daro ar groesfan y tu allan i ysgol.
Digwyddodd y ddamwain y tu allan i Ysgol Uwchradd Tregaron fore Mercher ac aed ag e i'r ysbyty mewn hofrennydd.
Does dim manylion eto am ei gyflwr.