Gweilch: Penodi cyfarwyddwr benywaidd cyntaf rygbi Cymru
- Cyhoeddwyd

Cafodd Debra Williams ei geni yng Nghastell-nedd
Mae menyw wedi cael ei phenodi'n gyfarwyddwr un o ranbarthau rygbi Cymru am y tro cyntaf .
Debra Williams, gafodd ei geni yng Nghastell-nedd, yw cyfarwyddwr anweithredol y Gweilch.
Y gred yw mai hi yw un o'r menywod cyntaf i fod yn gyfarwyddwr clwb neu ranbarth rygbi ym Mhrydain.
Mae wedi bod yn rheolwr cyfarwyddwr cwmni Confused.com ac yn gyfarwyddwr cwmni Tesco Compare.
Dywedodd cadeirydd y Gweilch, Geoff Atherton, ei fod yn croesawu'r penodiad ac y byddai arbenigedd Ms Williams "yn helpu cynaliadwyedd tymor hir y rhanbarth".
Dywedodd Ms Williams, sy'n dal i fyw yng Nghastell-nedd: "Rwy'n credu y galla' i helpu'r bwrdd yn ei ymdrechion i wneud y busnes yn gynaliadwy sy'n allweddol mewn cyfnod economaidd anodd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2013
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol