Stelcian: Diwrnod codi ymwybyddiaeth
- Cyhoeddwyd

Mae heddluoedd ac elusennau yn rhan o Ddiwrnod Codi Ymwybyddiaeth am Stelcian.
Nod y diwrnod yw hysbysu pobl lle y gallan nhw gael help os ydyn nhw'n amau eu bod yn diodde' o stelcian.
Mae tair elusen - Protection Against Stalking, Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh a'r Network for Surviving Stalking wedi ymuno gyda'r heddluoedd i drefnu'r diwrnod.
'Effaith sylweddol'
Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd John Hanson, aelod o Uned Amddiffyn Heddlu Gogledd Cymru: "Rydym yn cydnabod ac yn deall y gall stelcian ac aflonyddu gael effaith sylweddol ar ddioddefwyr a'u teuluoedd.
"Y llynedd newidiodd y ddeddfwriaeth gan roi rhagor o bwerau i'r heddlu.
"Mae'r ddeddf newydd ... yn anfon neges glir i droseddwyr bod stelcian ar unrhyw ffurf yn drosedd.
"Mae cymorth ar gael ac ni ddylai unigolion ddioddef yn dawel.
Dwy ddeddf
"Rydym wedi ymrwymo i gydweithio â'n hasiantaethau partner i wneud popeth posib' i amddiffyn dioddefwyr."
Ym mis Rhagfyr 2012 fe ddaeth dwy ddeddf i rym yn amlinellu dwy drosedd - stelcian sy'n peri ofn o drais neu stelcian sy'n peri dychryn a gofid difrifol.
O dan y ddeddf newydd caiff yr heddlu fynediad i eiddo er mwyn amddiffyn dioddefwyr rhag stelcwyr.
Roedd yr heddlu'n ychwanegu y dylai unrhyw un sy'n teimlo eu bod yn cael eu stelcian gysylltu gyda'r Llinell Gymorth Stelcian Cenedlaethol ar 0808 802 0300 neu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2000