Asbestos: £1m i atgyweirio ysgol
- Cyhoeddwyd

Bydd tua £1 miliwn yn cael ei wario ar ysgol a gafodd ei chau'n ddisymwth oherwydd pryderon am risg asbestos i'r 900 o ddisgyblion.
Mae cynghorwyr yng Nghaerffili wedi cytuno i dalu am y gwaith i gael gwared â'r asbestos ac ar ystafelloedd dosbarth dros dro yn Ysgol Uwchradd Cwmcarn.
Clywodd cyfarfod arbennig y gallai hyn olygu y bydd y disgyblion yn dychwelyd i'r safle ar gyfer y flwyddyn ysgol nesaf ym mis Medi eleni.
Ers i'r ysgol gau yn Hydref 2012, mae'r disgyblion wedi cael eu haddysg ar gampws Glyn Ebwy o Goleg Gwent 12 milltir i ffwrdd, gan arwain at brotestio gan rieni.
Ym mis Chwefror eleni, gorymdeithiodd cannoedd o bobl drwy Cwmcarn yn galw am ailagor yr ysgol.
Dau ddewis
Yn eu cyfarfod ddydd Mercher, fe gymeradwyodd y cynghorwyr gynllun i wario £300,000 ar osod ystafelloedd dosbarth dros dro ar y safle gwreiddiol, a £700,000 i adfer yr hen adeiladau.
Amcangyfrifir y bydd cyfanswm y gost yn £1.05 miliwn, ac mae contractwyr wedi dweud wrth yr awdurdod y gallai'r gwaith gael ei gwblhau mewn pryd i ailagor yr ysgol ym Medi 2013.
Dyna oedd un o ddau ddewis i'r cynghorwyr - y llall oedd gyrru disgyblion Bl.7-9 i Ysgol Gyfun Gymunedol Rhisga, Bl.10-11 i Ysgol Gyfun Pontllanfraith a'r chweched dosbarth i Goleg Gwent wrth i'r cyngor wneud penderfyniad ar ddyfodol ysgolion y sir.
Fe fyddai'r dewis yna wedi costio £300,000, ond fe gafodd ei ddiystyru oherwydd yr effaith y gallai'r symud gael ar y disgyblion.
Cafodd Ysgol Uwchradd Cwmcarn ei chau wedi i adroddiad ganfod bod asbestos yn yr adeilad yn beryglus.
Ond yn Chwefror eleni, dywedodd adroddiad arall gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch nad oedd heintio asbestos ar y safle.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2012