Dr Who yn y Proms

  • Cyhoeddwyd
Matt SmithFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Bydd cerddoriaeth o'r rhaglen ddrama Dr Who yn cael ei chwarae yn ystod y BBC proms

Mae yna wledd yn disgwyl selogion Dr Who yr haf yma wrth i'r BBC gyhoeddi y bydd cerddoriaeth o'r ddrama deledu yn cael ei chwarae yn ystod cyngherddau'r Proms.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC fydd yn chwarae'r darnau a hynny yn Neuadd Albert yn Llundain.

Bydd y ddau gyngerdd yn digwydd ar Orffennaf 13 ac 14.

Yn ei chartref arferol ym Mae Caerdydd y bydd y gerddorfa yn recordio'r trac sain. Dyw'r adeilad hwnnw ddim yn bell o stiwdios drama newydd BBC Cymru lle mae Dr Who yn cael ei ffilmio.

Bydd y Gerddorfa yn perfformio chwe gwaith yn ystod y BBC Proms eleni a bydd yr arweinydd newydd Thomas Søndergård yn arwain dau o'r cyngherddau hynny.

Cyngerdd yng Nghaerffili

Am y trydydd tro bydd cyngerdd mawr yn digwydd yn yr awyr agored yng Nghaerffili.

Mae'r perfformiad yn rhan o ddathliadau Noswaith Olaf y BBC Proms ar y 7fed o Fedi.

Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies: "Mae BBC Proms yn y Parc yn gyfle gwych i bobl ddod at ei gilydd ledled y DU a mwynhau noswaith hudol o gerddoriaeth.

"Yn dilyn llwyddiant BBC Proms yn y Parc yng Nghaerffili'r llynedd, rydym ni wir yn edrych ymlaen at ddychwelyd am noswaith gyfareddol arall o gerddoriaeth dan arweiniad Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, noswaith gaiff ei mwynhau gan y gynulleidfa ar y noson a hefyd y gwylwyr gartref.

"Rwy'n siŵr y bydd cynulleidfaoedd hefyd yn mwynhau cerddorfa Doctor Who ei hun yn perfformio mewn nifer o Proms hynod yn Neuadd Frenhinol Albert - gan gynnwys y Proms cyntaf dan faton medrus Thomas - ac rwy'n edrych ymlaen at weld y Gerddorfa unwaith eto'n cynrychioli Cymru gerbron cynulleidfa genedlaethol a rhyngwladol fel rhan o'r tymor".