Lladron yn taflu ci i ganol ffordd

  • Cyhoeddwyd

Mae ci wedi ei ladd ar ôl i ladron ei daflu i ganol ffordd o gerbyd yr oedden nhw wedi ei ddwyn.

Cafodd Nicky, oedd yn ddaeargi Swydd Stafford, ei adael ar lôn yn agos i'r M4 yn Abertawe fore Mawrth.

Roedd y ci wedi crwydro wedyn i'r draffordd ac wedi ei daro i lawr gan lori.

Gweithred dideimlad

Roedd y perchennog Alun Thomas wrthi yn symud pridd i'w gerbyd gyda chydweithwyr pan gafodd y fan ei dwyn.

Dyw'r heddlu ddim wedi gallu dod o hyd y cerbyd hyd yma.

Fe gafodd yr heddlu ei galw i gylchfan Llangyfelach ger Abertawe yn agos i gyffordd 46 o'r M4.

Roedd corff y ci saith mlwydd oed yn gorwedd yn farw ar y draffordd.

Wrth gyfeirio at y ffaith bod y lladron wedi taflu'r ci o'r cerbyd dywedodd Swyddog yr Heddlu bod hon wedi bod yn "weithred dideimlad".

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw dystion i gysylltu gyda nhw trwy ffonio 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 111 555.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol