Clefyd y galon: Angen mwy o ymchwil

Mae angen mwy o arian tuag at ymchwil i ddeall mwy am glefyd y galon yn ôl yr elusen British Heart Foundation.

Dyna pam ei bod yn cychwyn ymgyrch 'Ymladd ar gyfer bob curiad calon' sydd yn gofyn i bobl i roi arian tuag at ymchwil er mwyn ceisio achub bywydau.

Bydd hysbyseb yn cael ei ddangos ar sianeli teledu ddydd Sadwrn gan gynnwys ITV, Skynews a Skysports.

Yn ystod yr hysbyseb mae lluniau o'r chwaraewr pêl-droed Fabrice Muamba wedi iddo gael trawiad yn cael ei dangos.

Fe gafodd y dyn 23 oed ei rhuthro i'r ysbyty yn ystod gem rhwng Tottenham Hotspur a Bolton Wanderers ym mis Mawrth y llynedd.

5,000 yn marw

Mae ffigyrau diweddaraf BHF yn dangos bod bron i 5,000 o bobl yn marw yng Nghymru bob blwyddyn oherwydd clefyd y galon. Mae un ym mhob chwe dyn ac un ym mhob naw menyw yn marw o'r clefyd yng Nghymru.

Dywedodd yr athro Mark Kearney sydd yn gardiolegydd ac sydd yn ymddangos yn yr hysbyseb teledu: "Mae clefyd y galon yn dinistrio gormod o fywydau. Bob dydd yn y clinic dw i yn casáu gweld ei effaith ar blant, rheini a neiniau a theidiau.

"Dw i'n chwilio am y cam arwyddocaol nesaf er mwyn rhoi diwedd i'r dioddef. Ond mae gwaith ymchwil meddygol yn costio arian ac mae'r BHF angen cymorth ar frys i gael gwared a chlefyd y galon ym Mhrydain."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.