Tribiwnlys yn gwrthod achos hiliaeth
- Cyhoeddwyd

Mae tribiwnlys wedi gwrthod achos o wahaniaethu ar sail hil yn erbyn dyn o Abertawe gan gwmni Virgin Atlantic.
Roedd Max Kpakio, sy'n enedigol o Liberia, wedi honni bod y cwmni wedi gwrthod rhoi cyfweliad am swydd iddo, ond yna wedi rhoi cyfweliad pan gyflwynodd gais arall dan yr enw 'Craig Owen'.
Mynnodd Virgin ei fod yn gyflogwr cyfle cyfartal.
Penderfynodd y tribiwnlys nad oedd hil yn rhan o'r penderfyniad, a bod y ddau gais gan Mr Kpakio yn wahanol i'w gilydd.
£55,000
Roedd Mr Kpakio, 36 oed a thad i dri o blant, wedi hawlio colli cyflog a brifo'i deimladau yn erbyn cwmni Syr Richard Branson - cyfanswm o £55,000.
Clywodd y tribiwnlys bod Mr Kpakio, sydd wedi byw yng Nghymru am 10 mlynedd, yn teimlo ei fod wedi cael ei wrthod am y swydd oherwydd ei enw anghyffredin.
Ond dywedodd Virgin Atlantic bod gwahaniaethau yn y ddau CV a gyflwynodd Mr Kpakio, ac mai dyna pam y'i gwrthodwyd am y swydd mewn canolfan gwasanaethu'r cwsmer.
Yn ôl y cwmni, roedd gan y 'Craig Owen' dychmygol bum mlynedd o brofiad yn gweithio yn archfarchnadoedd Asda a Tesco, ac nad oedd hynny ar y cais gwreiddiol.
Mewn datganiad ysgrifenedig dywedodd y barnwr Claire Sharp: "Mae'r tribiwnlys yn dymuno bod yn hollol glir o ystyried y sylw mae'r achos yma wedi ei gael yn y wasg a'r cyfryngau.
"Nid newid yr enw yn unig a wnaeth yr hawlydd ar y ddau gais; roedden nhw'n geisiadau gwahanol ac roedd y cais ffug yn amlwg wedi ei lunio er mwyn ateb gofynion y cyflogwyr am y rôl."