Democratiaid Rhyddfrydol yn cyfarfod yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Y Democratiaid Rhyddfrydol sy'n ymgynnull yng Nghaerdydd y penwythnos hwn ar gyfer trydedd gynhadledd wleidyddol y gwanwyn yng Nghymru.
Gyda'i bwrlwm arferol maen nhw'n addo'r gynhadledd fwyaf eto ac yn annog y cynadleddwyr i wneud yn siŵr bod ganddyn nhw docyn i ginio'r gynhadledd lle bydd yr Ysgrifennydd Busnes Vince Cable yn annerch.
Uchafbwynt dydd Sadwrn yw anerchiad arweinydd y blaid a'r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg.
Mae disgwyl iddo blesio'r blaid Gymreig gyda'i gefnogaeth i ddatganoli mwy o bwerau i Senedd Bae Caerdydd.
Datganoli pellach
Bydd yn galw am fwy o drafodaeth am ddatganoli pellach ac yn pwysleisio ei ymroddiad i gynyddu pwerau'r Cynulliad.
Mae disgwyl iddo ddadlau bod datganoli pellach yn rhan annatod o greu cymdeithas decach - er bod tystiolaeth y glymblaid i Gomisiwn Silk sy'n edrych ar bwerau'r Cynulliad yn dweud nad oes angen unrhyw newid mawr i'r pwerau presennol.
Yn ei araith mae Mr Clegg yn gwadu honiadau bod llywodraeth y Deyrnas Unedig yn torri gwariant cyhoeddus yn rhy gyflym.
Bu bwriad o'r dechrau, meddai, "i fod yn hyblyg".
'Llanast'
Bydd hefyd yn manteisio ar y cyfle i ladd ar waith Llafur yn San Steffan, gan gyhuddo arweinydd yr wrthblaid Ed Miliband a'i ganghellor Ed Balls o fwynhau "cysur bod yn wrthblaid".
"Yr unig gynllun sydd gan Lafur yw mwy o'r hyn achosodd y llanast yma yn y lle cyntaf - mwy o wario, mwy o fenthyg a mwy o ddyled.
"Dim ond y Democratiaid Rhyddfrydol all adeiladu economi gryfach a chymdeithas decach, gan ganiatáu i bawb wella'u bywydau."
Yn y bore mae sesiwn holi ag ateb gyda'r Ysgrifennydd Ynni Ed Davey, un o nifer o aelodau cabinet sy'n galw yn y gynhadledd.
Mae'n gyfle euraid, medd y blaid, i drafod nifer o'r pynciau llosg mwyaf yng Nghymru, ynni niwclear ac ynni gwynt.
Straeon perthnasol
- 1 Mawrth 2013