Nifer yn gorfod gadael eu cartrefi

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod nifer o bobl wedi gorfod gadael eu cartrefi tra bod archwiliad mewn eiddo sy'n gysylltiedig â dyn 46 oed gafodd ei arestio yn Ninbych yn gynharach ddydd Gwener.

Mae arbenigwyr ffrwydron wedi cael eu galw i helpu i chwilio ardal Lenten Pool, Dinbych.

Mae cynghorydd lleol yn dweud bod cynifer â 40 o bobl yn cael llety dros dro yn Neuadd y Dref, Dinbych ar hyn o bryd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol