Ennill ar bwyntiau
- Cyhoeddwyd

Mae Nathan Cleverly wedi ennill ar bwyntiau yn erbyn Robin Krasniqi wrth i'r ornest bara am 12 rownd.
Hwn i'r pumed tro i'r Cymro amddiffyn ei goron WBO is-drwm y byd yn llwyddiannus.
Roedd ei lwyddiant yn Wembley nos Sadwrn yn golygu cyfres o 26 o ornestau heb golli.
Dechreuodd y Cymro 26 oed yn hyderus ond enillodd ei wrthwynebydd rywfaint o dir.
Yng nghanol yr ornest cafodd Cleverly ei ddal sawl gwaith ond ni lwyddodd Krasniqi i achosi niwed.
'Yn synnu'
Dywedodd dau taw'r sgôr oedd 120-108 i Cleverly a 119-109 oedd penderfyniad y llall.
"Wy'n synnu ei fod e wedi para am 12 rownd," meddai Cleverly.
"Wnes i roi lo's iddo fe gydag ergyd â'r llaw dde ac o'n i'n gobeithio y bydde hyn yn ddigon.
"Ond whare teg o'dd digon o ysbryd 'da fe."
Roedd Krasniqi wedi ennill 38 o ornestau'n olynol cyn herio'r Cymro.
Straeon perthnasol
- 4 Mawrth 2013
- 21 Rhagfyr 2012
- 12 Tachwedd 2012