Cerddwr ar fynydd wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae cerddwr yn ei ugeiniau wedi marw ar ôl iddo gwympo ar fynydd.
Daeth cerddwyr eraill o hyd iddo ar gefn 2,500 o droedfeddi o uchder ar Yr Wyddfa ddydd Sadwrn.
Cafodd Timau Achub Mynydd Llanberis ac Aberglaslyn eu galw a hofrennydd Seaking o'r Fali aeth ag e i Ysbyty Gwynedd, Bangor.
Yr un criw achubodd baragleidiwr oedd mewn trafferth yn Llantysilio ger Bwlch yr Oernant yn Sir Ddinbych.
Roedd y dyn o'r Wyddgrug wedi cwympo 40 troedfedd oherwydd nam ar ei barasiwt.
Aed ag i Ysbyty Wrecsam Maelor oherwydd ofnau iddo gael anafiadau i'w gefn.