April Jones: Y chwilio ar ben
- Cyhoeddwyd

Dros chwe mis ers i April Jones ddiflannu ym Machynlleth mae'r Heddlu wedi cadarnhau eu bod nhw wedi rhoi'r gorau i chwilio amdani.
Ond maen nhw'n dweud bod swyddogion ar gael i ymateb i unrhyw wybodaeth newydd.
Ers dechrau mis Hydref mae timau arbenigol wedi bod yn cydweithio gyda lluoedd eraill o'r DU i archwilio'r ardal o gwmpas Machynlleth wrth geisio dod o hyd i'r ferch pum mlwydd oed.
Mae nifer o adnoddau wedi'u defnyddio, gan gynnwys unedau tanddwr yr heddlu, swyddogion sy'n arbenigo mewn archwilio mannau cyfyng, timau achub trefol, gwylwyr y glannau a thimau achub mynydd, ynghyd â chŵn arbenigol.
Yn wythnosol mae 17 o dimau achub wedi bod yn rhan o'r gwaith o archwilio ardal 60 cilometr sgwâr, sy'n cynnwys 300 ardal benodol.
Fe fydd Mark Bridger, 47 oed, o flaen llys yr wythnos nesaf, wedi ei gyhuddo o'i llofruddio.
Mae e'n gwadu'r cyhuddiad. ac hefyd yn gwadu cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder wedi diflaniad April ar Hydref 1 y llynedd.
Fe fydd yr achos yn cychwyn ar Ebrill 29.
Straeon perthnasol
- 27 Mawrth 2013
- 25 Chwefror 2013
- 14 Ionawr 2013
- 4 Ionawr 2013
- 13 Rhagfyr 2012
- 12 Rhagfyr 2012