Merch yn ôl ym Mhrydain ar ôl damwain yn Ffrainc

Catrin Pugh Image copyright Pugh Family permission
Image caption Roedd Catrin Pugh wedi bod yn gweithio yn yr Alpau dros y tymor sgïo

Mae merch o ardal Wrecsam, a gafodd ei hanafu'n ddifrifol mewn damwain bws yn yr Alpau yn Ffrainc, wedi dod yn ôl i Brydain.

Cadarnhawyd bod Catrin Pugh, 19, wedi cael ei throsglwyddo i Ysbyty Whiston yng Nglannau Mersi dros y penwythnos, ble mae hi mewn cyflwr sefydlog.

Yr wythnos ddiwetha' fe ddiolchodd ei theulu am y gefnogaeth roedden nhw wedi'i gael.

Roedd y Swyddfa Dramor wedi cynnig cymorth llysgenhadol i deulu Ms Pugh, o bentre'r Orsedd, tra roedd hi yn yr ysbyty yn Ffrainc.

Mae'n debyg ei bod hi yn teithio adref ar ôl gweithio yn Ffrainc dros y tymor sgïo pan ddigwyddodd y ddamwain.

Roedd dros 50 o bobl ar y bws pan lithrodd oddi ar y ffordd a mynd ar dân ger Alpe d'Huez ddydd Mawrth diwetha'.

'Nam peirianyddol'

Cafodd y gyrrwr Maurice Wrightson, 63, o Northumberland, ei ladd ac roedd Catrin Pugh ymhlith tri o Brydeinwyr a gafodd eu hanafu yn y digwyddiad.

Image copyright Reuters
Image caption Roedd y bws wedi bod yn cludo staff adref i'r DU ar ddiwedd y tymor gwyliau

Roedd y bws wedi bod yn cludo staff cyrchfan sgïo adre i'r DU ar ddiwedd y tymor gwyliau.

Digwyddodd y ddamwain wrth i'r bws ddod i lawr allt serth sy'n cael ei defnyddio'n aml yn ras feicio flynyddol y Tour de France.

Mae'r heddlu amau bod nam ar frêcs y cerbyd.

Dywedodd swyddogion yn Ffrainc bod Mr Wrightson wedi dangos "dewrder rhyfeddol" drwy adael i'r bws daro yn erbyn creigiau yn hytrach na chymryd risg y byddai'n mynd dros ddibyn.

Straeon perthnasol