Cwmni awyrennau yn cael ei brynu

Mae perchnogion British Airways, International Airlines, wedi prynu cwmni awyrennau Vueling.

Mae Vueling yn cynnal gwasanaethau rhwng maes Awyr Caerdydd a sawl lleoliad yn Sbaen ar hyn o bryd.

Yn gynharach eleni cyhoeddodd Vueling eu bod yn ehangu eu gwasanaeth ym maes awyr Caerdydd gan gynnwys mwy o hediadau i Alicante, Malaga, Barcelona a Palma.

Yr wythnos diwethaf cyhoeddwyd fod nifer y teithwyr o Faes Awyr Caerdydd yn llai na miliwn am y tro cynta' mewn nifer o flynyddoedd.

Awgrymodd manylion dros dro yr Awdurdod Hedfan Sifil fod 994,885 wedi hedfan yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth, hynny yw 15% yn llai na'r un cyfnod y flwyddyn flaenorol.

Ychydig o wythnosau ynghynt fe brynodd Llywodraeth Cymru'r maes awyr am £52m.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.