Agor cwest i farwolaeth cerddwr ar Yr Wyddfa

Yr Wyddfa Image copyright Bill Boaden
Image caption Cafodd timau achub a hofrenydd eu galw wedi i Jarred Maillet, 21, gael ei ddarganfod

Cyhoeddwyd mai myfyriwr 21 oed o America fu farw wrth gerdded ar Yr Wyddfa ddydd Sadwrn.

Yng Nghaernarfon cafodd cwest ei agor a'i ohirio i farwolaeth Jarred Paul Maillet o Maine ac a oedd yn astudio ym Mhrifysgol Manceinion.

Roedd cerddwyr wedi dod o hyd i Mr Maillet yn gorwedd gerllaw llwybr 2,500 o droedfeddi i fyny'r mynydd.

Mae'n ymddangos ei fod wedi disgyn.

Roedd Timau Achub Mynydd Llanberis ac Aberglaslyn wedi'u galw.

Cafodd Mr Maillet ei gludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor, gan hofrennydd Sea King Awyrlu'r Fali ond roedd wedi marw cyn cyrraedd.

Straeon perthnasol