Achos tân Prestatyn: Rheithgor allan

Gyda'r cloc o'r chwith: Liam Timbrell; Lee-Anna Shiers a'i mab Charlie; nith Skye a nai Bailey Image copyright Facebook
Image caption Bu farw pum aelod o'r un teulu yn y tân

Mae'r rheithgor yn achos llofruddiaeth pump o bobl fu farw yn dilyn tân yn eu fflat ym Mhrestatyn wedi dechrau ystyried eu dyfarniad fore dydd Gwener.

Mae Melanie Smith, 43 oed, wedi gwadu'r cyhuddiadau o lofruddio dau oedolyn a thri phlentyn ifanc oherwydd tân mewn fflat uwchben ei fflat hi ym Mhrestatyn ym mis Hydref y llynedd.

Mae hefyd yn gwadu'r cyhuddiad o fygwth llosgi tŷ menyw arall.

Yn Llys y Goron yr Wyddgrug mae 'r Barnwr, Mr Ustus John Griffith Williams, wedi dweud wrth y rheithgor fod yn "ddiduedd" wrth ystyried yr achos.

Bu farw Lee-Anna Shiers, 20 oed, ei nai Bailey, pedair oed, ei nith Skye, dwy oed, mewn tân ar Hydref 19.

Cafodd ei mab 15 mis oed, Charlie, a'i phartner Liam Timbrell, 23 oed, eu hachub ond bu farw'r ddau yn yr ysbyty yn ddiweddarach.

Straeon perthnasol