Roedd Ymchwiliad Leveson i ddulliau papurau newydd o ddod o hyd i straeon
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Leveson: Papurau'n gwrthod cynlluniau'r llywodraeth

25 Ebrill 2013 Diweddarwyd 20:29 BST

Mae mwyafrif papurau newydd Prydain wedi gwrthod cynlluniau'r llywodraeth a'r blaid lafur i reoleiddio'r wasg yn sgil ymchwiliad Leveson i safonau. Ac yn lle hynny maen nhw wedi cyhoeddi eu cynlluniau eu hunain - maen nhw'n bwriadu creu trefn newydd annibynnol gan ddweud eu bod nhw'n derbyn y rhan fwyaf o argymhellion yr Arglwydd Leveson. Ar ran papurau News International, roedd gan Guto Harri ran allweddol yn y gwaith o lunio trefn newydd. Gofynnodd Dewi Llwyd iddo ar y Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru pam eu bod nhw mor benderfynol o wrthod cynnig y llywodraeth.