Milwr ar goll: Heddlu'n canfod corff

Josh Thomas Image copyright Kent Police
Image caption Roedd Josh Thomas wedi treulio noson Ebrill 10 gyda ffrindiau cyn diflannu

Mae'r heddlu sy'n chwilio am filwr o Gymru sydd wedi bod ar goll wedi canfod corff yn Afon Medway.

Does neb wedi gweld Josh Thomas, 18 oed o Flaendulais ger Castell-nedd, ers iddo adael tafarn yn Rochester nos Fercher, Ebrill 10.

Cafodd ei weld ar gamera cylch cyfyng y noson honno ar ôl treulio noson gyda ffrindiau.

Dywedodd yr heddlu bod y llanc, oedd yn gweithio ym marics Brompton yn Gillingham, yn ymddangos yn feddw.

Roedd tad Mr Thomas, Gary, wedi teithio i Gaint er mwyn cynorthwyo gyda'r chwilio am ei fab.

Dywed yr heddlu eu bod wedi canfod corff nid nepell o'r lle y gwelwyd Mr Thomas am y tro diwethaf, ond nid yw'r corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol hyd yma.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.