Tri yn yr ysbyty ar ôl damwain ym Mangor

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i ddamwain yn ninas Bangor
Image caption Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i ddamwain yn ninas Bangor

Mae tri'n cael triniaeth yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, ar ôl damwain ddifrifol yn y ddinas amser cinio ddydd Mawrth.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 12.20pm ar ôl i gar a fan daro ei gilydd ar Ffordd Caernarfon.

Cafodd dyn a dwy ddynes eu cludo i Ysbyty Gwynedd mewn ambiwlans.

Mae gwraig 76 oed yn ddifrifol wael.

Mae plismyn yn gofyn i unrhywun welodd y ddamwain i gysylltu gyda nhw ar 101.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.