Tân yn dechrau mewn biniau sbwriel

Diffoddwyr ar y safle chwe awr ar ôl i'r tân ddechrau
Image caption Diffoddwyr ar y safle chwe awr ar ôl i'r tân ddechrau

Mae diffoddwyr wedi delio â thân difrifol ddechreuodd mewn biniau sbwriel yn y Coed Duon yn Sir Caerffili.

Ar un adeg roedd dros 50 o ddiffoddwyr tân yn ceisio diffodd y fflamau yn siop Poundstretcher ar y Stryd Fawr.

Cafodd diffoddwyr o ardaloedd Caerdydd, Merthyr Tudful, Aberdâra Bargoed eu galw i'r safle tua 2:00am.

Fe gymerodd hi tua chwe awr i gael y fflamau dan reolaeth.

Dywedodd yr awdurdodau fod yr adeilad bellach yn anniogel.

'Atal'

"Fe weithiodd y criwiau'n ddiflino mewn amgylchiadau anodd," meddai Lyndon Moreton, Rheolwr Ardal Gwasanaeth Tân De Cymru.

"Fe lwyddon ni i atal y tân rhag lledu i siopau cyfagos. Roedd y tân o dan reolaeth erbyn 7.53am."

Pan gyrhaeddodd y criwiau roedd biniau sbwriel ar dân a'r tân wedi lledu i stafell storio yng nghefn y siop a'r llawr cynta'.

Cafodd y Stryd Fawr ei chau ac roedd yr awdurdodau yn cynghori pobl leol i osgoi'r ardal ac yn galw ar rai oedd yn byw gerllaw i gau eu drysau a'u ffenestri.

Ar un adeg roedd chwe injan a dau graen hydrolig yn taclo'r fflamau, yn ogystal â phedwar chwistrellydd dŵr mawr.

Mae peiriannydd yn asesu'r difrod a dywedodd Western Power y byddai cyflenwad trydan siopau cyfagos yn cael ei adfer yn ddiweddarach.

Ar ôl 7.53am roedd nifer o swyddogion tân ac un craen hydrolig yn aros ar y safle i sicrhau bod y tân ddim yn ailgynnau.

Image copyright Kyl Powell
Image caption Cafodd criwiau tân eu galw i'r safle yn y Coed Duon tua 2:00am ddydd Mercher

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.