Pryder am ddyfodol Eisteddfodau bach

Eisteddfod Aberystwyth
Image caption Mae Eisteddfodau bach yn gyfle i blant ddysgu nifer o sgiliau, yn ôl rhai.

Mae rhybudd y gallai rhai Eisteddfodau bach ddod i ben yn y blynyddoedd nesaf.

Dywedodd y Prifardd Meirion Macintyre Huws ei fod yn poeni am nifer y bobl sy'n cefnogi rhai Eisteddfodau bach.

Ar raglen Newyddion 9 nos Fercher cyfaddefodd Swyddog Datblygu Cymdeithas Eisteddfodau Cymru fod ambell un o'r 120 o eisteddfodau bach yng Nghymru yn "gwegian", gyda chynulleidfaoedd pryderus o fach.

'Tynnu'r drwg allan'

Wrth gyfeirio at restr testunau rhai eisteddfodau, dywedodd Mr Huws: "Fel y deudodd Gwilym Hughes, Llywydd Eisteddfod Mynytho, rhaid i'r llawfeddyg fynd â'r gyllell weithiau.

"Rhaid bod yn ddewr, ac mae'r claf ofn mae'n siŵr ond mae'n rhaid mynd â'r gyllell, tynnu darn o'r drwg o 'na.

"Nid torri pen y claf i ffwrdd - does 'na neb yn gofyn am hynny, ond tynnu'r drwg allan a rhoi gwell cyfle i oroesi i'r dyfodol i'r claf.

"Efallai bod hynny'n wynebu ambell 'steddfod".

Defnyddio'r we yw un ffordd ymlaen, meddai, a dysgu gwersi gan eisteddfodau eraill.

Dywedodd Megan Jones, Cadeirydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru: "Mae'n anodd cael pobl newydd i ddod mewn i bwyllgorau'r Eisteddfodau 'ma.

"Mae rhai pobl wedi bod yn gwirfoddoli ers blynydde, felly mae'n anodd iawn i gael gwaed newydd a falle 'na pam dyw'r Eisteddfodau ddim yn cario 'mlaen cystal.

"Mae ishe cael gwaed newydd mewn, ma' ishe cydweithio hefyd hefo pobl fel y Ffermwyr Ifanc - ma' ishe tynnu nhw mewn, falle, i gystadlu yn yr Eisteddfodau lleol 'ma."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Merfyn Davies yn holi teulu sydd wedi cystadlu mewn llawer o eisteddfodau

'Dysgu sgiliau'

Ar raglen y Post Cyntaf ddydd Iau, dywedodd Ysgrifenyddes Eisteddfod Talgarreg, Enfys Llwyd: "Mae angen i bob Eisteddfod edrych ar eu hunain ac ar eu rhaglen flynyddol i weld beth ry'n ni'n gynnig. Er enghraifft, ry'n ni yn Nhalgarreg wedi bod yn edrych ar y gwobrau a sylweddolon ni bod y gwobrau oedd gennym ni dros 12 oed yn dariannau a chwpanau - felly ry'n ni wedi newid hynny i arian i ddenu pobl ifanc.

"Dwi'n meddwl bod angen i'r Eisteddfodau bach. Mae'n dysgu cymaint o sgiliau, yn cynnal y Gymraeg a diwylliant Cymraeg, yn hybu sgiliau llwyfan y plant, ennill a cholli ac yn y blaen."

Yn ôl Des Davies, Ysgrifennydd Gŵyl Fawr Aberteifi: "Ry'n ni'n ffodus iawn yn Aberteifi - ry'n ni'n dod i ben â chynnal Eisteddfod bob blwyddyn.

"Mae hynny, falle, oherwydd y cydweithio o fewn y pwyllgor - mae gennym ni bwyllgor o tua 30 ac mae cyfran o'r rheiny'n bobl ifanc."

Dau Swyddog Datblygu sydd gan Gymdeithas Eisteddfodau Cymru ac maen nhw'n gweithio'n rhan amser.

Mae Meirion Macintyre Huws yn y gogledd a Dana Edwards yn y de.

Mae'r swyddi'n cael eu hariannu trwy grant gan Lywodraeth Cymru sydd yn £46,000 eleni.

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.