Pontypridd yn ennill Cwpan Swalec
- Cyhoeddwyd

Y sgôr terfynol yn Stadiwm y Mileniwm oedd Castell-nedd 13-34 Pontypridd
Fe lwyddodd Pontypridd i daro'n ôl yn ail hanner eu gêm yn erbyn Castell-nedd nos Sadwrn, gan gipio Cwpan Swalec.
Er eu bod ar ei hôl hi o 13-9 ar yr egwyl, fe sgoriodd yr asgellwr Chris Clayton a'r bachwr Darren Harris dri chais rhyngddynt yn yr ail hanner, gan ennill y gêm o 34-13.
Fe giciodd Dai Flanagan bedair cic gosb a throsiad, gyda Simon Humberstone yn ychwanegu trosiad a chic gosb.
Fe sgoriodd Dafydd Howells gais gwych i Gastell-nedd, gyda Dai Langdon yn trosi ac ychwanegu cic gosb a chic adlam.
Curodd Heol y Cyw Rhydyfelin o 20-19 yn rownd derfynol Plât Swalec, gydag Wattstown yn drech nag Abergwaun ac Wdig o 27-17 yn ffeinal y Bowlen.
Straeon perthnasol
- 4 Mai 2013