Alex Ferguson i ymddeol fel rheolwr Manchester United

Alex Ferguson
Image caption Penodwyd Alex Ferguson yn reolwr ar glwb Manchester United yn 1986

Mae rheolwr Clwb Pêl-droed Manchester United Alex Ferguson wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o'i swydd ar ddiwedd y tymor, a hynny wedi 26 mlynedd wrth y llyw.

Bydd gêm gystadleuol olaf y rheolwr yn erbyn Abertawe yn Old Trafford brynhawn Sul.

Mae Ferguson yn cael ei ystyried y rheolwr mwyaf llwyddiannus ym Mhrydain.

Yn ystod ei yrfa, mae'r Albanwr wedi ennill y gynghrair 13 o weithiau, Cwpan yr FA bum gwaith a Chynghrair y Pencampwyr ddwywaith.

Dywedodd Syr Alex fod y penderfyniad i ymddeol yn un "anodd iawn" ond bod yr amser wedi dod.

Bydd nawr yn ymgymryd â chyfrifoldebau newydd fel cyfarwyddwr a llysgennad i'r clwb.

'Braint ac anrhydedd'

Wrth gyhoeddi ei benderfyniad i ymddeol, diolchodd i gefnogwyr y clwb: "Mae'r gefnogaeth rydych wedi ei roi dros y blynyddoedd wedi cadw fy nhraed ar y ddaear.

"Mae wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd i gael y cyfle i arwain eich clwb ac rwyf wedi trysori fy amser fel rheolwr Manchester United."

Bydd y gwaith o chwilio am olynydd yn dechrau'n fuan.

Mae'r bwcis wedi penderfynu mai rheolwr Everton David Moyes yw'r ffefryn, ond mae Jose Mourinho hefyd yn enw sydd wedi cael ei gysylltu gyda'r swydd.