2015 - un i'r Dyn Hysbys

Os byw ac iach rwy'n gwybod yn iawn ble fyddai ar yn union amser yma ar yr union ddyddiad yma ymhen dwy flynedd. Byddaf yn eistedd mewn stiwdio rhywle yng Nghaerdydd. Mwy na thebyg bydd Richard Wyn Jones yno ac o bosib y bydd Dewi Llwyd o gwmpas y lle yn rhywle hefyd.

Ie, dwy flynedd i heddiw os nad â'r hwch trwy'r siop cyn hynny fe fydd etholwyr y Deyrnas Unedig wedi bwrw eu pleidleisiau yn Etholiad Cyffredinol 2015. O gymryd bod yr hwch o hyd yn ei dwlc David Cameron ac Ed Miliband fydd wedi arwain eu pleidiau i mewn i'r etholiad yna.

P'un o'r ddau fydd a'i drwyn ar y blaen, felly? Wel, mae'n llawer rhy gynnar i ddweud wrth reswm ac mae modd dadlau'r ddwy ffordd. Beth am wneud fell? Fe wna i ddechrau gydag achos y rheiny sy'n credu taw'r arweinydd Llafur fydd ar ei ffordd i Downing Street.

Cred yr Ymerawdwr Napolean oedd taw lwc oedd rhinwedd pwysicaf Cadfridog a phwy all wadu bod Ed Miliband yn wleidydd hynod o lwcus. Roedd e'n lwcus i guro ei frawd am yr arweinyddiaeth, yn lwcus bod dewis gwael fel Canghellor yr Wrthblaid wedi ymddiswyddo am resymau personol na allai neb amau eu dilysrwydd ac yn lwcus bod economi Prydain mor araf i ymateb i foddion George Osbourne.

Ond mae 'na un darn o lwc sy'n sefyll uwchlaw'r gweddill - rhywbeth wnaeth ddigwydd er gwaethaf ymdrechion Ed Miliband nid o'u herwydd. Canlyniad y refferendwm ynghylch y bleidlais amgen oedd y digwyddiad hwnnw.

Nawr efallai bod y refferendwm yn ymddangos yn beth digon dibwys ar yr olwg gyntaf ond ystyriwch effeithiau'r canlyniad.

Yn gyntaf fe ddarbwyllodd y Democratiaid Rhyddfrydol i ddryllio'r cynlluniau i ddiwygio ffiniau'r etholaethau - cynllun a fyddai wedi golygu rhyw ddeg ar hugain o seddi ychwanegol i'r Ceidwadwyr yn 2015. Yn ail, ac yn bwysicach efallai yn sgil etholiadau lleol Lloegr wythnos ddiwethaf, ni fydd y bleidlais amgen ar gael i gyfuno pleidleisiau ar y dde wleidyddol - rhan o'r sbectrwm sy'n edrych yn fwy rhanedig wrth i'r etholiad agosáu.

Oedd y methiant yn y refferendwm yn ran o rhyw gynllwyn cyfrwys, maciafelaidd, milibandaidd? Go brin. Lwc piau hi - a lwc allai gario Ed i rif deg.

Beth yw'r dadleuon o blaid David Cameron? Yn eironig ddigon y gyntaf yw Ed Miliband. Dysgodd Llafur yn 1992 pa mor niweidiol y gall pryderon ynghylch darpar brif weinidog fod ac ar hyn o bryd mae'r arolygon barn yn awgrymu bod yr amheuon ynghylch Ed Miliband cymaint, os nad yn fwy, na'r rhai ynghylch Neil Kinnock yn 1990. Mae'r Ceidwadwyr ar y blaen yn y ddadl economaidd hefyd a dyw'r adwy rhwng Llafur a'r Torïaid ddim yn anarferol o fawr yng nghanol tymor llywodraethol.

O gael ychydig o wynt teg economaidd fe ddylai hi fod yn bosib i David Cameron ddarbwyllo'r etholwyr nad call fyddai newid cwch cyn cyrraedd y lan. Y broblem wrth gwrs yw o ble daw'r gwyntoedd teg - a dyma i chi'r casgliad fwyaf diddorol ynghylch etholiad 2015.

Mae'n bosib dadlau bod ffawd Cameron a Milliband allan o'u dwylo i ryw raddau. Mae'r Ceidwadwr yn gobeithio am y gorau ynghylch economi sy'n stybwrnllyd o ddiymadferth a'r Llafurwr yn dibynnu ar ei lwc a'r awch am newid mewn economi gwan.

Rwy'n gwybod yn iawn ble fydda i ymhen dwy flynedd felly ond does gen i ddim clem beth fydd gen i i ddweud.