Morfil marw ar draeth

Morfil Image copyright Arall
Image caption Bydd swyddogion yn ceisio penderfynu beth oedd achos ei farwolaeth.

Mae morfil marw 15 troedfedd o hyd wedi ei olchi i'r lan ym Mae Clarach ger Aberystwyth.

Y gred yw ei fod yn forfil gylfinog Sowerby,

Eisoes mae swyddogion Rhaglen Ymchwil Cymru i Forfilod wedi Tirio wedi ei archwilio.

Dywedodd Thomas Scarrott, perchennog parc gwyliau yn y cyffiniau, fod y cyhoedd wedi cael rhybudd i beidio â'i gyffwrdd.

"Dwi'n credu iddo gael ei olchi i'r lan ers oriau," meddai.

"Mae wedi cael ei symud o ganol y traeth ac mae sticer melyn arno."

Bydd swyddogion yn ceisio penderfynu beth oedd achos ei farwolaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion nad oedd modd ei symud "am ei fod yn rhywogaeth sy'n cael ei gwarchod".