Teulu'n gobeithio datgelu llygredd

Daniel Morgan Image copyright PA
Image caption Cafwyd hyd i gorff Daniel Morgan mewn maes parcio tafarn yn Llundain yn 1987

Mae teulu'r ditectif preifat Daniel Morgan wedi dweud eu bod yn gobeithio y bydd ymchwiliad cyhoeddus i'w lofruddiaeth yn datgelu llygredd o fewn yr heddlu.

Cafodd Mr Morgan ei ganfod gyda bwyell yn ei ben mewn maes parcio tafarn yn Llundain yn 1987.

Honnwyd bod llygredd o fewn yr heddlu wedi rhwystro datrysiad y drosedd er gwaetha' chwe ymchwiliad troseddol.

Mae disgwyl i'r Ysgrifennydd Cartref Theresa May gyhoeddi ymchwiliad barnwrol annibynnol i'r achos.

Dywedodd brawd Mr Morgan, Alastair, wrth y BBC ar raglen Newsnight: "Os ydym am ddelio gyda llygredd o fewn yr heddlu, rhaid i ni edrych i fyw ei lygad.

"Rhaid edrych ar y manylion, lle dechreuodd y cyfan a pha benderfyniadau gafodd eu gwneud."

Dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai'r un craffter a welwyd yn ymchwiliadau Leveson a Hillsborough yn cael ei adlewyrchu yn achos ei frawd.

Ond cyfaddefodd ei bod yn "annhebygol iawn" bellach y byddai unrhyw un yn sefyll ei brawf am lofruddiaeth Mr Morgan.

Mae teulu Mr Morgan yn credu ei fod ar fin datgelu llygredd o fewn yr heddlu pan gafodd ei lofruddio.

Ers 1987 maen nhw wedi ymgyrchu i geisio sicrhau bod y llofrudd yn cael ei ddwyn i gyfrif mewn llys barn.

Cafwyd hyd i gorff Mr Morgan, oedd yn hanu'n wreiddiol o Lanfrechfa ger Cwmbrân, yn Sydenham, de-ddwyrain Llundain, yn 1987.

Fe wnaeth achos yn erbyn pedwar dyn oedd wedi eu cyhuddo yn 2008 o'i lofruddio ddymchwel yn 2011 yn dilyn methiannau honedig gan yr heddlu ac erlynwyr.

Ar ddiwedd 2011, fe wnaeth mam Mr Morgan, Isobel Hulsmann o'r Gelli Gandryll ym Mhowys, gwrdd â Mrs May i bwyso arni i weithredu.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.