Sky yn ymestyn cytundeb pêl-droed

Gareth Bale Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Gareth Bale fydd un o'r ser fydd i'w gweld yn fyw ar Sky tan 2017

Mae cwmni darlledu Sky wedi ymestyn eu cytundeb i ddangos gemau pêl-droed Cymru tan 2017.

Bydd y cytundeb yn golygu mai Sky fydd â'r hawl i ddarlledu holl gemau Cymru, gan gynnwys gweddill gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014 a gemau rhagbrofol Ewro 2016, yn fyw.

Mae'r cytundeb yn cynnwys gemau cartref ac oddi cartref Cymru, ynghyd â holl gemau'r Alban, Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon dros yr un cyfnod.

Daeth y cytundeb ar yr un diwrnod ag y cyhoeddodd cwmni ITV eu bod nhw wedi ennill yr hawl i ddangos holl gemau tîm Lloegr ar gyfer Ewro 2016 a Chwpan y Byd 2018.

Yn flaenorol dim ond hawliau'r gemau cartref oedd gan ITV.

Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd rheolwr cwmni Sky Sports Barney Francis: "Pencampwriaeth Ewrop a Chwpan y Byd yw cystadlaethau rhyngwladol pwysicaf y byd pêl-droed, ac fe fydd y cytundeb yma yn cynnig y darlun llawn i wylwyr Sky Sports."

Ar hyn o bryd mae gan y BBC yr hawl i ddarlledu uchafbwyntiau gemau Cymru ar gyfer BBC Cymru ac S4C.

Does dim manylion wedi eu cyhoeddi hyd yma os fydd y cytundeb yna yn newid yn y dyfodol.

Mae'r BBC wedi gofyn i Gymdeithas Bêl-droed Cymru am ei hymateb i'r cyhoeddiad.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.