Lansiad swyddogol Rali Cymru GB
- Published
Bydd Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Cymru Edwina Hart yn Llandudno ddydd Gwener i gyhoeddi'n swyddogol cartref newydd Rali Cymru Prydain Fawr 2013.
Wedi blynyddoedd o gael ei chynnal yn y de, fe fydd y rali geir yn cael ei chynnal yn y gogledd ym mis Tachwedd eleni.
Dyma fydd rownd olaf Pencampwriaeth Ralïo'r Byd yn 2013.
Yn ymuno â'r gweinidog fydd Andrew Coe ar ran y trefnwyr International Motor Sports ac arweinydd Cyngor Conwy, Dilwyn Roberts.
Bydd seremoni agoriadol y digwyddiad yn cael ei chynnal yng Nghonwy ar y nos Iau, gyda dathliadau'r llinell derfyn yn Llandudno ar y prynhawn Sul.
Bydd y llwybr dros bedwar diwrnod o gystadlu yn fwy cywasgedig, gyda'r mwyafrif o'r Cymalau Arbennig yn cael eu hamseru yng nghoedwigoedd Cymru.
Hefyd bydd cymalau gyda'r nos ac addas i deuluoedd yn cael eu hailgyflwyno, a bydd modd i gefnogwyr gael ystod ehangach o docynnau am brisiau is nag o'r blaen.
Ddydd Gwener, fe fydd Mr Hart a Mr Coe yn cyhoeddi union lwybr y rali am eleni ynghyd â pholisi ticedi newydd sy'n ceisio denu mwy o bobl, yn enwedig teuluoedd, i'r digwyddiad.
Bydd y lansiad swyddogol yn digwydd yn Venue Cymru am 11:30am ddydd Gwener, Mai 17.
Straeon perthnasol
- Published
- 25 Ebrill 2013
- Published
- 18 Ionawr 2013