Boddi mewn ffigyrau

Mae modd mynd ar goll mewn ystadegau weithiau. Roedd ddoe'n ddiwrnod felly i mi.

Yn gyntaf cyhoeddwyd ffigurau gwrando Rajar gyda'u newyddion drwg i Radio Cymru. Mae a wnelo'r ffigyrau hynny mwy a'r anghydfod rhwng y BBC ac EOS nac unrhyw beth arall dybiwn i. Nid bod hynny'n golygu nad yw'r orsaf yn wynebu heriau hir dymor go iawn. Fe gawn weld faint a oedd y ffigyrau'n "blip" neu'n arwydd bod dirywiad hir dymor yn cyflymu ymhen tri mis.

Er taw Radio Cymru gafodd y rhan fwyaf o sylw ddoe roedd Rajar yn cynnig ambell i ffigwr arall ddiddorol yn enwedig o gofio bod radio yn gyfrwng hynod o bwysig i wleidyddiaeth Cymru oherwydd gwendid y wasg brintiedig.

Fe gafodd Radio Wales chwarter addawol gyda'i chynulleidfa yn cynyddu er gwaetha neu oherwydd penderfyniad i droi'r orsaf yn un fwy difrifol a llai dibynnol ar gerddoriaeth. Newyddion da.

Draw yn y gorllewin dyw hi ddim yn ymddangos bod newid yr amodau iaith wedi dod a gwyrthiau i Radio Ceredigion. Mae'r ffigyrau wedi gwella ond dyw siâr o wrando o 4.6% ddim yn cymharu'n dda a pherfformiad gorsafoedd "Town and Country Broadcasting" yn Sir Benfro (19.1%) na Sir Gâr (12.7%).

Mae llawer o orsafoedd masnachol eraill Cymru mewn tipyn o rigol ar hyn o bryd. Y llynedd prynwyd yr egin rwydwaith fasnachol genedlaethol "Real" gan gwmni Global Radio perchnogion gorsafoedd "Heart" a "Capitol" ymhlith eraill.

Ar hyn o bryd mae'r Comisiwn Cystadleuaeth yn ystyried a ydy cryfder Global yng Nghymru yn ymylu ar fonopoli ac mae'n bosib y gorfodir i'r cwmni werthu rhai o'r gorsafoedd. Gellir disgwyl penderfyniad yn weddol o fuan ond yn y cyfamser does fawr o reswm i Global newid pethau na buddsoddi yn eu gwasanaethau.

Y set arall o ystadegau wnaeth gyrraedd fy nesg ddoe oedd "cross-tabs" Cyfrifiad 2011. Nid ffeithiau newydd yw'r rheiny fel y cyfryw ond modd o ddod a dwy set o ystadegau ynghyd.

Er enghraifft, roeddem yn gwybod cyn hyn faint o bobl oedd yn gallu siarad Cymraeg yng Ngheredigion. Roeddem yn gwybod hefyd faint o drigolion y sir oedd wedi eu geni y tu fas i Gymru. Nawr cawn wybod bod y mwyafrif llethol o'r rheiny sy'n medru'r Gymraeg yn bobol a anwyd yng Nghymru. Quelle surprise.

Ond mae 'na ambell i beth yn y ffigyrau sy'n codi cwestiynau difrifol. Dyma un ohonyn nhw.

Plant a phobl ifanc yw'r bobl fwyaf tebygol o fod a rhywfaint o allu yn y Gymraeg. Serch hynny o'r 38,044 o bobl oedd yn 16 oed ar noson y cyfrifiad roedd 20,038 heb unrhyw sgiliau yn y Gymraeg o gwbl.

Fe fyddai'r mwyafrif llethol o'r rheiny wedi bod yn astudio'r Gymraeg am y rhan fwyaf o'u bywydau byrion. Beth mae hynny'n dweud am safon gwersi Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg?