Awyren yn syrthio gan anafu tri

  • Cyhoeddwyd
awyrenFfynhonnell y llun, Richard Birch
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r holl wasanaethau brys ar y safle ger Dinas Dinlle

Mae awyren fechan wedi syrthio i'r ddaear ym maes awyr Caernarfon ger Dinas Dinlle.

Mae'r maes awyr wedi cadarnhau bod yr awyren heb lanio'n gywir yno am 11:27am fore Sul.

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru bod Ambiwlans Awyr Cymru a cherbyd arall ar y safle.

Mae un dyn yn ei 60au wedi diodde' anafiadau difrifol i'w goesau, a phlentyn gydag anafiadau i'w ben a'i abdomen

Mae'r ddau wedi cael eu cludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wyth injan dân ar y safle, ac maen nhw wedi dweud bod un person yn dal yn sownd yn yr awyren.

Mae'n ymddangos bod yr awyren wedi troi drosodd wrth geisio glanio.

Mae llefarydd ar ran yr Uned Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr wedi dweud: "Rydym yn ymwybodol o'r digwyddiad ac wedi gyrru tîm i gynnal archwiliad cychwynnol o'r digwyddiad."